Gwybodaeth Amdanom Ni

Tîm o ymchwilwyr profiadol yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ydym ni, sydd ag arbenigaeth mewn ymchwil i ddulliau ansoddol a chymysg, gofal cymdeithasol ac iechyd, ymchwil gymhwysol, y celfyddydau a’r dyniaethau, ymchwil i ddwyieithrwydd a gwyddorau cyfrifiadurol.

Y Tîm

Jane Noyes Leah Mc Laughlin Jo Mitchell Carol Williams
Athro Jane Noyes Dr Leah Mc Laughlin Ms Jo Mitchell Mrs Carol Williams

Jane Noyes

www.bangor.ac.uk/so/staff/janenoyes.php.en

Leah Mc Laughlin

Rwy’n ymchwilydd sy’n gweithio’n llawn amser ar y Project Rhoi Organau hwn. Rwy’n gweithio ym meysydd y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithas ac mae gennyf brofiad o ymchwil ansoddol a dull cymysg. Rwy’n gweithio yn Uned Ymchwil Arennol Cymru yng Nghaerdydd. Os oes gennych unrhyw brofiad o’r ffordd newydd o gydsynio i roi organau yng Nghymru byddwn yn hoffi clywed eich stori. Gallwch gysylltu â mi drwy unrhyw un o’r cysylltiadau ar y wefan hon, gan gynnwys tudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at glywed gennych a diolch yn fawr i chi. www.bangor.ac.uk/so/staff/leah-mclaughlin.php.cy

Jo Mitchell

Rwy’n weinyddwr project profiadol. Hyd fis Chwefror 2015, bûm yn cydweithio â’r Athro Nigel John yn rheoli’r Uned Ddadansoddi a Delweddu Uwch Ddelweddau Meddygol – cydweithrediad PAN Wales rhwng prifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe ac Aberystwyth. Datblygodd tîm ymchwilwyr yr uned dechnolegau delweddu meddygol i’r GIG yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi cynorthwyo Cyfarwyddwr yr adran Ystadau a Chyfleusterau ar y project Pontio – Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor.

Carol Williams

Rwyf yn gweithio’n rhan amser fel Swyddog Cefnogi Prosiect Ymchwil ac yn gweithio ar y Prosiect Rhoi Organau. Rwy’n siarad Cymraeg ac yn gallu cynnal sgyrsiau yn Gymraeg a Saesneg gydag aelodau o’r teulu. Symudais i Lundain yn 1986 gan weithio yn Ysgol Llundain dros Lanweithdra a Meddygaeth Drofannol ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn yr adran Grantiau Ymchwil. Ar ôl dychwelyd i fyw yn Ynys Môn, cymhwysais fel nyrs a gweithio fel Nyrs Ardal a Nyrs Iechyd Galwedigaethol. Rwyf hefyd yn rhedeg fy musnes fy hun.